Lleoliad:
Hybrid - Committee room 4 Ty Hywel
and video conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 18 Tachwedd 2021
Amser:
09.15 -
14.53
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12467
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Siân Gwenllian AS Sioned Williams AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Jane Houston, Comisiynydd Plant Cymru Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg David Morris, Llywodraeth Cymru Zenny Saunders, Llywodraeth Cymru Cath Wyatt, Llywodraeth Cymru Dr David Blaney, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Bethan Owen, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Phil Boshier (Ymchwilydd) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Nododd y Cadeirydd y byddai Sioned Williams AS yn dirprwyo ar ran Siân Gwenllian AS ar gyfer eitemau 5 i 10.
1.4 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams AS fod ei gŵr yn cael ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe, datganodd James Evans AS mai ef oedd Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer Iechyd Meddwl, Llesiant a Chanolbarth Cymru, a datganodd Laura Jones AS bod ei mam yn Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd yng Nghyngor Sir Fynwy.
2 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21
2.1 Fe wnaeth y Pwyllgor graffu ar y Comisiynydd ynghylch ei hadroddiad blynyddol.
2.2 Cytunodd y
Comisiynydd i ddarparu papur i'r Pwyllgor a gyflwynwyd i'r
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch yr adolygiad statudol ar
addysg gartref ddewisol a rheoleiddio ysgolion annibynnol
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(xi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 6
3.1 Derbyniwyd y
cynnig.
4 Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn dystiolaeth flaenorol
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddysgu mwy am eu gwaith ar iechyd meddwl gydag elusennau.
5 Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 1
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.
5.2 Cytunodd y Gweinidog i rannu’r canlynol â'r Pwyllgor:
- sut y mae'n rhagweld y bydd y berthynas rhwng cyflogwyr, cyrff dyfarnu, y Comisiwn a Chymwysterau Cymru yn gwella drwy'r Bil; a’r
- Cynllun Gweithredu Deddfwriaeth.
5.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog gyda'r cwestiynau nas gofynnwyd yn ystod y sesiwn.
6 Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn dystiolaeth flaenorol
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.
6.2 Cytunodd yr Aelodau i wahodd yr undebau i roi tystiolaeth lafar yn y cyfarfod ar 9 Rhagfyr.
7 Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 2
7.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan CCAUC.
8 Papur i'w nodi
8.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
9 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
9.1 Derbyniwyd y
cynnig.
10 Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn dystiolaeth ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
10.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.
11 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16
11.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol.
11.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o eglurhad.
12 Trafod Gweledigaeth Strategol y Pwyllgor
12.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei weledigaeth strategol.
12.2 Trafododd yr Aelodau bynciau posibl ar gyfer ymchwiliad yn nhymor y gwanwyn, a chaiff papur cwmpasu ei drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.